Fe gafodd Aelodau Seneddol £3.1 miliwn mewn treuliau yn y tri mis a hanner cyntaf ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, yn ôl y corff sy’n rheoli’r system.
Ond dyw’r Awdurdod Safonau Seneddol (IPSA) ddim yn cyhoeddi’r derbynebau unigol nac yn cyhoeddi pa rai sydd wedi eu gwrthod.
Derbynebau unigol oedd wedi arwain at ddatgelu sgandal lwfansau’r ASau cyn yr etholiad, pan gawson nhw’u dal yn hawlio am bob math o bethau o forgeisi anghymwys i ynys hwyaid.
Yn ôl IPSA, roedd 22,000 o geisiadau wedi eu cyflwyno rhwng mis Mai 7 a 31 Awst gan 576 allan o’r 650 o ASau.
Dyma’r rhai cynta’ i gael eu cymeradwyo gan y corff a sefydlwyd i orfodi rheolau llymach ar ddefnydd ASau o arian trethdalwyr.
Er y bydd disgrifiad o bob cais yn cael ei gyhoeddi, mae’r IPSA wedi penderfynu y byddai’n rhy ddrud i gyhoeddi’r derbynebau.
Ond mae ASau’n anhapus gyda’r system newydd, gan gwyno am y ffordd y maen nhw’n cael eu trin a gan alw am system symlach.