Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi heddiw y bydd adolygiad brys o sut y mae system drafnidiaeth Prydain wedi ymdopi gyda’r tywydd oer – wrth i filoedd mwy o bobol wynebu oedi a phroblemau.
Mae meysydd awyr Caeredin a Gatwick yn Llundain wedi cau heddiw ac mae teithwyr sydd wedi bod yn defnyddio ffyrdd a rheilffyrdd yn wynebu rhagor o oedi a phroblemau.
Gyda mwy a mwy o feirniadu am y ffordd y mae Prydain yn delio â’r tywydd oer, mae’r Gweinidog trafnidiaeth Philip Hammond wedi cyhoeddi y bydd adolygiad yn cael ei gynnal i berfformiad y gwasanaethau cyhoeddus.
“Fe wnaethon ni weithredu’n syth yn ystod yr Haf sy’n golygu ein bod wedi paratoi’n well ar gyfer y tywydd oer na’r flwyddyn ddiwethaf,” meddai. “Mae cronfa halen genedlaethol yn bod am y tro cyntaf.
“Ond rydw i’n rhannu rhwystredigaeth aelodau’r cyhoedd sy’n teithio ac mae’n rhaid i ni fod yn siŵr ein bod yn gwneud popeth i gadw Prydain yn symud,” meddai Philip Hammond.
‘Sgandal tocynnau’
Yn y cyfamser, mae’r anhrefn wedi ysgogi un o undebau’r rheilffyrdd i alw am roi stop ar gynnydd ym mhris tocynnau trên yn y flwyddyn newydd.
Yn ôl Undeb y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth – yr RMT – byddai’n “sgandal” petai’r cynnydd ym mhrisiau tocynnau yn digwydd ar ôl i gymaint o deithwyr gael eu siomi yn ystod y tywydd garw.
“Ac ystyried profiadau brawychus teithwyr ar reilffyrdd yn ystod y tywydd oer – byddai’n ddim llai na sgandal os yw cwmnïau trên preifat yn cael codi prisiau hyd at 13% mewn ychydig wythnosau,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Bob Crow.
“Dylai’r codiadau pris gael eu hatal. Dylai archwiliad y Llywodraeth ystyried dychwelyd i system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig ac wedi’i chynllunio – sy’n rhydd o drachwant cwmnïau trên preifat – sydd eisiau llenwi eu pocedi. “
Aeth ymlaen i ddweud fod cwmnïau preifat yn gwneud “elw o gannoedd ar filoedd” wrth i deithwyr eistedd allan yn yr oerfel.
Llun: Arad eira (Heidas CCA 3.0)