Mae prinder darlithwyr cymwys yn atal Prifysgol fwya’ Cymru rhag cynnig rhagor o addysg trwy’r Gymraeg.
Mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, Owain Lewis, yn dweud bod “degau os nad cannoedd” o fyfyrwyr rhugl eu Cymraeg yn dod yno – mae ffigurau’n dangos fod bron 3,000 o siaradwyr Cymraeg trwy’r brifysgol i gyd.
“Y broblem yw staffio,” meddai Owain Lewis ac mae’r Brifysgol ei hun wedi cydnabod fod hynny’n broblem, ond eu body n ceisio newid pethau
Yn ôl llefarydd ar ran y brifysgol, mae cynlluniau ar droed i feithrin darlithwyr cyfrwng Cymraeg o blith pobol sydd eisoes yno.
“Rydyn ni’n edrych ar beth fedrwn ni ei wneud i ddatblygu beth sydd ganddon ni’n barod,” meddai Elliw Iwan, Cydlynydd Datblygu Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Caerdydd.
Gobaith y brifysgol yw y bydd y cynllun wedi dwyn ffrwyth erbyn 2012, gan ddenu darlithwyr sy’n medru’r Gymraeg i addysgu yn yr iaith, a denu myfyrwyr PhD sy’n siarad Cymraeg i fynd ymlaen i ddarlithio.
Y stori’n llawn yn Golwg yr wythnos yma.