Fe ddylai’r lefel gyfreithlon o alcohol i yrwyr ddysgu at y nesa’ peth i ddim, yn ôl Aelodau Seneddol.

Ond roedd Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin yn cydnabod y byddai hynny’n gam rhy fawr i’w gymryd ar unwaith.

Yng Nghymru, wrth i’r heddluoedd lansio eu hymgyrchoedd nhw yn erbyn yfed a gyrru tros y Nadolig, fe ddaeth yn amlwg y bydd llawer llai o wario ar hysbysebion teledu.

Y llynedd, fe gafodd Cymru werth £3.4 miliwn o hysbysebion teledu – fe fydd y ffigwr eleni fwy na chwe gwaith yn llai.

Neges y pedwar heddlu Cymreig fydd fod un ddiod yn ormod – yr un egwyddor sydd y tu cefn i adroddiad y pwyllgor dethol.

Gostwng y lefelau

Mae lefel presennol yfed a gyrru yn 80mg o alcohol mewn 100ml o waed. Ond mae adroddiad diweddara’r pwyllgor yn dadlau y dylai’r Llywodraeth anelu at leihau hyn i 20mg o alcohol yn yr hir dymor.

Fe ddylai’r gostyngiad ddigwydd, medden nhw, ar ôl cynnal ymgyrch addysgu sylweddol gan y llywodraeth ynglŷn â chryfder diodydd a’u heffaith ar y corff.

Mae’r adroddiad yn argymell rhoi mwy o bŵer i’r heddlu i roi profion anadl – heb orfod dangos fod ganddyn nhw amheuon ymlaen llaw.

Mae ymchwiliad y pwyllgor yn dilyn adroddiad cynharach gan ymgynghorydd y Llywodraeth, Syr Peter North.

Roedd Syr Peter North wedi argymell gostwng y lefel gyfreithlon i 50mg o alcohol.

Cyffuriau hefyd

Mae’r pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai’r Llywodraeth fynd i’r afael â chymryd cyffuriau a gyrru yn ystod y pum mlynedd nesa’ er mwyn sicrhau ei fod gymaint o flaenoriaeth ag yfed a gyrru.