Fe fydd Lloegr yn cael gwybod y prynhawn yma a fyddan nhw’n cael yr hawl i gynnal Cwpan Bêl-droed y Byd yn 2018.

Mae’r Saeson yn wynebu cystadleuaeth o gyfeiriad Rwsia, Sbaen/Portiwgal a Gwlad Belg/Yr Iseldiroedd.

Roedd rhai’n pryderu heddiw y bydd helynt rhwng cefnogwyr Birmingham ac Aston Villa neithiwr wedi gwneud drwg i’r cais.

Putin yn cadw draw

Rwsia oedd y ffefrynnau i ennill ond mae rhai’n credu bod ,eu cais wedi cael ergyd ar ôl i Brif Weinidog y wlad, Vladimir Putin, gyhoeddi na fydd yn teithio i bencadlys y corff rhyngwladol FIFA yn Zurich i lobïo cyn y cyhoeddiad.

Ar y llaw arall, mae Lloegr wedi bod yn brysur iawn yn ceisio ennill cefnogaeth munud olaf gyda’r Prif Weinidog David Cameron, y Tywysog William a’r chwaraewr rhyngwladol David Beckham yno’n rhoi hwb i’r cynnig.

Fe fydd gan y gwledydd un cyfle arall i ennill cefnogaeth pan fydd tîm o bump yn gwneud cyflwyniad ar ran pob cynnig. Mae David Cameron, y Tywysog William a David Beckham yn rhan o dîm cyflwyno Lloegr.

Lloegr ‘yn y cyfri terfynol’

Mae prif weithredwr cynnig Sbaen/Portiwgal, Miguel Angel Lopez, yn credu mai ei gynnig ef a Lloegr fydd yn y rownd derfynol o bleidleisio.

“R’yn ni’n ffyddiog y gallwn ni ennill. Mae gyda ni wyth pleidlais yn sicr ac mae’n edrych yn debyg bydd Lloegr yn y rownd derfynol,” meddai Miguel Angel Lopez.

Tra bod gwledydd yn gallu bod yn sicr o bleidleisiau dewis-cynta’, y farn yw ei bod yn llawer mwy anodd proffwydo canlyniad y pleidleisiau ail ddewis wrth i rai o’r cynigion adael y ras.

Mae Lloegr yn anelu i gynnal y gystadleuaeth am y tro cyntaf mewn 52 mlynedd a fydd dim cyfle arall tan Fe fyddai methu sicrhau Cwpan y Byd i’r wlad yn ergyd fawr ac ni fyddai cyfle eto tan gystadleuaeth 2026.

Llun: Safle’r rownd derfynol? Wembley (Gwefan y stadiwm)