Mae methu â dod o hyd i waith neu gynlluniau hyfforddi i bobol ifanc yn costio hyd at £155 miliwn yr wythnos trwy wledydd Prydain, meddai Ymddiriedolaeth y Tywysog a Banc yr RBS.

Mae nifer y bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd heb waith yn y tymor hir ar ei ucha’ ers 16 o flynyddoedd, medden nhw.

Roedd tua 5,800 o bobol ifanc wedi bod yn hawlio lwfans chwilio am waith ers mwy na blwyddyn yn 2008; erbyn hyn, mae’r ffigwr wedi codi i 25,800.

Yn ôl yr ymchwil a wnaed gan adran o’r London School of Economics ar ran y ddau gorff, mae colli gallu cynhyrchu’r bobol ifanc yn costio rhwng £48 miliwn a £155 miliwn bob wythnos.

‘Angen ymyrryd’

“Gall cost flynyddol un person sy’n chwilio am waith fod cymaint ag £16,000. Does dim ateb i’r ddadl am ymyrryd a rhoi cefnogaeth,” meddai Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth y Tywysog, Martina Milburn.

Maen nhw’n dweud bod eisiau rhagor o’r math o gyrsiau hyfforddi a datblygu y mae’r Ymddiriedolaeth yn eu cynnig, gan ddadlau bod hynny’n rhoi gwell gwerth am arian na chadw pobol ar restrau’r di-waith.

Maen nhw hefyd yn dadlau y byddai ymyrraeth yn help i dorri cost troseddu gan bobol ifanc – mae’r adroddiad yn amcangyfri’ fod hynny’n £23 miliwn bob wythnos, gyda chost cadw pobol ifanc yn y carchar yn agos at £600 miliwn y flwyddyn.

Mae pobol ifanc hefyd yn dueddol o ail-droseddu, meddai’r adroddiad, gyda 75% mewn trwbwl eto o fewn dwy flynedd.

Llun: Clawr yr adroddiad