Mae cwmni awyrennau Qantas wedi dechrau achos cyfreithiol rhagarweiniol yn erbyn cwmni Rolls-Royce.

Maen nhw eisiau iawndal oddi wrth y cwmni peirianyddol ar ôl i un o’u peiriannau ffrwydro ar awyren.

O ganlyniad, fe gafodd awyrennau Airbus A380 y cwmni hedfan eu cadw ar y ddaear er mwyn cynnal archwiliadau diogelwch.

Heddiw, mae corff diogelwch awyr Awstralia wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i wendid sylfaenol yn un rhan o’r peiriannau gan rybuddio y bydd angen archwilio cyson nes y bydd rhan newydd ar gael.

Hen beiriannau yw’r rheiny ac mae’n ymddangos nad yw’r gwendid yn bod mewn fersiynau mwy diweddar.

Yn ôl Qantas, fe fydd y camau cyfreithiol cychwynnol yn sicrhau y gallan nhw siwio Rolls-Royce pe baen nhw ddim yn hapus gyda’r cynnig o iawndal gan y cwmni Prydeinig.

Llun: Un o awyrennau Airbus A380 cwmni Qantas