Roedd prif gynrychiolydd yr Unol Daleithiau yn Ewrop yn credu fod Prif Weinidog Rwsia’n gwybod am lofruddiaeth y swyddog cudd Alexander Litinenko yn Llundain.

Dyna’r honiad diweddara’ i gael ei ddatgelu o blith y degau o filoedd o ddogfennau cyfrinachol sydd wedi eu cyhoeddi trwy wefan Wikileaks.

Yn ôl papur y Guardian, sydd wedi bod yn astudio’r dogfennau, roedd yr Americanwyr yn credu y byddai Vladimir Putin yn sicr o wybod am yr hyn oedd yn digwydd.

Mae yntau wedi ymateb trwy ddweud bod yr honiadau’n enllibus ond mae dogfennau eraill yn cynnwys honiad bod Rwsia bellach fwy neu lai yn nwylo’r ‘mafia’.

Chwilio am Assange

Yn y cyfamser, mae heddlu sawl gwlad yn chwilio am sylfaenydd Wikileaks, yr Awstraliad Julian Assange.

Mae’r awdurdodau yn Sweden wedi cyhoeddi warant i’w arestio ar gyhuddiadau o drais rhywiol ond does dim sôn wedi bod ohono ers dechrau’r mis diwetha’.

Mae rhai’n awgrymu ei fod yn Lloegr ar hyn o bryd ac mae’r Llywodraeth yn Awstralia yn ystyried a yw wedi torri unrhyw gyfreithiau yno.

Mae Prif Weinidog y wlad – y Gymraes Julia Gillard – wedi condemnio’r penderfyniad i gyhoeddi’r dogfennau cyfrinachol. Roedd hynny’n “anghyfreithlon” ac “anghyfrifol”, meddai.

Llun: Vladimir Putin (Kremlin)