Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad a chronfa Ewropeaidd yn cyfrannu £27.5 miliwn at godi canolfan newydd yn lle Theatr Gwynedd ym Mangor.

Mae Prifysgol Bangor, sy’n gyfrifol am ddatblygiad cynllun Pontio, wedi croesawu’r newydd gan ddweud y bydd y ganolfan yn “llusern ddiwylliannol” i Gymru.

Y bwriad yw agor y ganolfan yn nechrau 2013, yn ganolfan ar gyfer arloesi, technoleg a gwyddoniaeth, yn ogystal â theatr, perfformio a’r diwydiant creadigol.

‘Uchelgeisiol’

“Mae’r prosiect yn un uchelgeisiol ac eiconig ac rydym yn credu y caiff effaith sylweddol iawn ar yr holl bobol a ddaw i gysylltiad ag o,” meddai’r Athro Fergus Lowe, Dirprwy i’r Is-ganghellor yn y Brifysgol a’r dyn sy’n arwain y gwaith.

“Mi fydd yn rhoi Canolfan arloesol a rhagoriaeth artistig a fydd yn sicr o dynnu sylw pobol o bell ac agos, yn ogystal ag ysgogi a hybu twf economi Gogledd Cymru.”

Yn ôl y Brifysgol, fe fydd cymaint â 330 o swyddi parhaol yn cael eu creu trwy weithgaredd y ganolfan, gyda thua 550 ar gael yn ystod y cyfnod adeiladu a sefydlu.

Llun: Syniad o sut y bydd Pontio’n edrych (Llun y Brifysgol)