Cyflwr anarferol ar y galon oedd yn gyfrifol am farwolaeth bachgen 13 oed o Reading mewn afon yng nghanolbarth Cymru ddwy flynedd yn ôl.

Roedd Stewart McEwan, a oedd yn chwaraewr pêl-droed addawol, wedi cwympo i mewn i afon Wysg ger Aberhonddu wrth ganŵio.

Roedd ef a merch yn yr un canŵ ag ef wedi syrthio i’r dŵr ac fe ddaeth yn amlwg ar unwaith ei fod mewn trafferthion.

Dyfarniad naratif

Mewn cwest yn Aberhonddu, fe gofnododd y Crwner ddyfarniad naratif ar y bachgen – gan gofnodi’r hyn ddigwyddodd heb roi bai.

Roedd hi’n ymddangos, meddai, bod y bachgen wedi marw o gyflwr ar y galon nad oedd wedi ei nodi cyn hynny.

Roedd ei fam wedi rhoi caniatâd iddo fynd i nofio ond gan nodi ei fod wedi llewygu ddwywaith o’r blaen mewn pwll.

Tirabad

Roedd y criw o Ysgol Maiden Erlegh yn Reading yn aros yng nghanolfan awyr iach Tirabad ger Llanwrtyd ac yn cymryd rhan mewn trip rygbi a hoci.

“Fe adewais i ef wrth gatiau’r ysgol ar fore dydd Gwener i fynd ar drip ysgol i Gymru a ddaeth e ddim yn ôl,” meddai mam y bachgen, Janet McEwan.

Llun: Stewart McEwan (Heddlu Dyfed-Powys)