Mae rhannau helaeth o’r Alban a dwyrain a de Lloegr wedi diodde’ eto o rew ac eira mawr – y dechrau gwaetha’ i’r gaeaf ers blynyddoedd.
Mae adroddiadau am gannoedd o yrwyr wedi eu dal yn gaeth yn eu ceir ac am lond trên o bobol yn gorfod treulio’r nos arno yn ne Lloegr, tra bod meysydd awyr Caeredin a Gatwick ger Llundain ynghau.
Mae’r heddlu mewn sawl ardal wedi bod yn rhybuddio am broblemau ar draffyrdd a phriffyrdd, gan gynnwys yr M25 a’r M3.
Mae pedwar cyngor lleol yng nghanol yr Alban eisoes wedi cyhoeddi na fydd ysgolion yn agor tan ddydd Llun o leia’ ac mae disgwyl rhagor o eira heddiw.
Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn Llundain, Philip Hammond, wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad i weld pam fod yr awdurdodau’n cael cymaint o drafferth i ddelio gydag eira.
Y tywydd i ddod
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai cymaint ag wyth modfedd ddisgyn yn nwyrain a de-ddwyrain Lloegr, cyn i’r tywydd glirio rhywfaint fory.
Yng Nghymru, mae disgwyl ychydig gawodydd o eira heddiw a rhagor tua diwedd y dydd fory.
Llun: Eira ar y ffyrdd (Llun Llywodraeth)