Mae’r BBC wedi cyhoedd y bydd y Manic Street Preachers yn perfformio ar raglen Strictly Come Dancing nos Sul nesaf.

Bydd y newyddion yn dod fel tipyn o syndod i gefnogwyr y grŵp sy’n adnabyddus am rebelio yn erbyn y drefn.

Mae’r Manics yn dilyn yn ôl troed enwau fel Robbie Williams, James Blunt a Peter Andre sydd eisoes wedi ymddangos ar y gyfres yma o Strictly.

Fe gyhoeddodd y band y newyddion trwy neges ar wefan Twitter ddoe, ac fe’i cadarnhawyd gan lefarydd ar ran y BBC yn fuan wedyn.

“Yn anhygoel – mae ganddo ni Strictly Come Dancing nos Sul” meddai’r grŵp ar Twitter.

“Cyfathrebu torfol yn wir. Beth i’w wisgo??” ychwanegodd y trydar gan chwaraewr gitâr fas y band, Nicky Wire, sy’n adnabyddus am wisgo dillad amgen yn cynnwys ffrogiau merched.

Ymateb cymysg

Mae’r wasg a chefnogwyr y band wedi ymateb yn gymysg i’r newyddion.
Fe wnaeth y Manics eu henw yn wreiddiol fel dewis amgen i gerddoriaeth prif ffrwd dechrau’r 1990au, ond mae eu hymddangosiad ar raglen fel Strictly yn awgrymu eu bod yn rhoi gwerthiant recordiau uwchlaw eu henw da.

Mae’n syndod pellach o ystyried bod y cyn AS Torïaidd, Ann Widdecombe yn cystadlu yn y gyfres eleni. Yn y gorffennol mae gwleidyddiaeth Widdecombe wedi tynnu’n gwbl groes i’r math o wleidyddiaeth mae’r Manics wedi trafod yn eu cerddoriaeth.

Ar y llaw arall, mae rhai o’r farn bod y grŵp yn bwriadu manteisio ar y cyfle i greu ychydig o ddireidi.

Fe fydd y band yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Some Kind of Nothingness’ ddydd Llun.

Mae’r rhaglen Stictly Come Dancing yn cael ei darlledu am 7:30 nos Sul 5 Rhagfyr.