Fe fydd Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans, yn ymuno ag ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wrthod talu am ei thrwydded deledu.
Fe gyhoeddodd y Gymdeithas bod yr AS Ewropeaidd yn cefnogi’r brotest oherwydd bwriad y Llywodraeth i dorri chwarter o gyllid y sianel a’i gorfodi i fynd o dan adain y BBC.
Heddiw y dechreuodd y Gymdeithas yn ffurfiol ar y broses o gasglu enwau ac maen nhw’n gobeithio y bydd rhagor o bobol adnabyddus yn ymuno.
“Rwy’n falch o gael bod yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith er mwyn sicrhau dyfodol i S4C,” meddai Jill Evans, wrth i gylchgrawn Golwg gyhoeddi hefyd y bydd y canwr Bryn Fôn yn rhan o’r brotest hefyd.
‘Pleser’
“Mae’n bleser gennyf gael cynnig fy enw fel un o’r nifer cynyddol o bobl Cymru sydd yn barod i wrthod talu eu trwydded teledu er mwyn sicrhau dyfodol i’r sianel,” meddai Jill Evans.
Drwy wneud hyn – fe ddywedodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd ei bod yn “dilyn ôl traed cyn arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans” sy’n cael llawer o’r clod am berswadio’r Llywodraeth ar y pryd i sefydlu’r sianel yn y lle cyntaf’.
Eisoes, mae Mabon ap Gwynfor, ŵyr Gwynfor Evans wedi dweud wrth Golwg360 y byddai’n “cefnogi unrhyw un sy’n ddigon dewr i ymgyrchu’n uniongyrchol ac yn ddi-drais gan beryglu mynd i’r carchar dros yr achos”.
Bryn Fon yn gwrthod talu – stori yn Golwg yr wythnos yma.