Mae naturiaethwyr yn pryderu am effeithiau’r tywydd oer ar rywogaethau cynhenid o anifeiliaid ac adar bach, fel llygoden fach yr yd, y dryw a’r dryw eurben.
Dywed swyddog bioamrywiaeth Sŵ Caer, y gallai niferoedd llygod bach yr yd ostwng 95% os bydd y tywydd oer yn parhau.
Meddai Sarah Bird: “Fe fydd llygod bach yr yd yn enwedig yn dioddef yn sgil y tywydd oer, ac mae’r rhew yn ei gwneud hi’n anodd hefyd i rywogaethau sy’n gorfod tyllu am fwyd, fel tyrchod daear.
“Fe fydd y tywydd oer yn neilltuol o beryglus anifeiliaid bach neu wan o unrhyw rywogaeth wrth iddyn nhw’i chael hi’n fwy anodd i gael hyd i fwyd a chadw’n gynnes.”
Ar y llaw arall, meddai, un fantais o eira yw ei bod hi’n llawer haws gweld bywyd gwyllt.
“Mae’n werth cadw llygad am adar anghyffredin yn bwydo mewn coed gydag aeron – rydyn ni eisoes wedi gweld llawer o gynfonnau sidan – waxwings – ym Mhrydain y gaeaf yma wrth iddyn nhw ddod yma o ddwyrain Ewrop neu Siberia.”
Mae Sŵ Caer yn gofyn i’r cyhoedd sylwi ar y bywyd gwyllt o’u cwmpas yn ystod y tywydd oer a chofnodi ar-lein www.record-lrc.co.uk os ydyn nhw’n gweld unrhyw beth allan o’r cyffredin.
Llun: Llygoden fach yr yd (o wefan Wikipedia)