Mae rhenti tai’n uwch nag y buon nhw ers tair blynedd wrth i’r galw am dai ar rent gynyddu yn sgil yr argyfwng credyd.

Ac mae hyn yn “newyddion drwg i gynlluniau Llywodraeth Cymru” yn ôl Shelter Cymru.

Rhybuddia John Pritchard, rheolwr polisi Shelter Cymru, y bydd “anawsterau cynyddol” i denantiaid sy’n chwilio am dai i’w rhentu ac sy’n wynebu cyfyngiadau lwfans tai.

Mae tua 39% yn fwy o syrfewyr wedi adrodd gweld cynnydd mewn rhent yn ystod y trydydd chwarter na’r rhai sydd wedi gweld gostyngiad. Dyma’r lefel uchaf ers ail chwarter 2007, yn ôl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.

Mae’r Sefydliad yn dweud bod y cynnydd mewn rhenti yn cael ei wthio gan fwy a mwy o alw am dai i’w rhentu. Daw hyn wrth i brynwyr tai tro cyntaf gael anhawster i sicrhau morgais a chael gafael ar y blaendal angenrheidiol.

Ond, ar y llaw arall – mae’r nifer o dai newydd sydd ar gael i’w rhentu wedi disgyn am y pumed chwarter yn olynol wrth i landlordiaid godi morgeisi i gynyddu eu portffolios tai.

Mae disgwyl i’r sefyllfa barhau gyda 34% o syrfewyr yn rhagweld cynnydd pellach mewn rhent gyda rhent am dai yn codi ar gyfradd uwch na rhent ar gyfer fflatiau.

“Wrth i’r galw gynyddu, bydd rhenti’n codi a bydd landlordiaid yn cael dewis eu tenantiaid,” meddai John Pritchard wrth Golwg360.

‘Newyddion drwg’

“Bydd hyn yn newyddion drwg i Lywodraeth Cymru sy’n ceisio defnyddio cynlluniau yn y sector rhentu preifat i ddarparu gwell gwasanaeth atal digartrefedd. Bydd hefyd yn newyddion drwg i’r rhai sydd ar incwm isel ac sy’n ceisio cael mynediad i’r sector.

“Fydd dim angen i landlordiaid drafod a chyfaddawdu am brisiau rhenti – y rhai fydd yn dioddef fydd y tenantiaid hynny sy’n wynebu cyfyngiadau lwfans tai a budd-dal tai gan y byddan nhw’n cael anawsterau cynyddol wrth geisio dod o hyd i gartref.”

Fe ddywedodd fod rhaid i awdurdodau lleol gyd-weithio gyda landlordiaid i wella mynediad i’r sector.

“Bydd Llywodraeth Cymru hefyd angen datblygu gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer y sector rhentu preifat yng Nghymru yn ogystal â gweithio i wella amodau a diogelwch yn y sector a hybu twf.”

(Llun o wefan Shelter Cymru)