Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi penodi ‘Llysgennad Cyflogaeth’ ar gyfer pobl ag awtistiaeth yng Nghymru.

Cyhoeddodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, fod Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr, wedi dechrau yn y swydd ran-amser hon a fydd yn parhau am flwyddyn a hanner.

Ei waith fydd dangos sut y gall busnesau yng Nghymru elwa ar y doniau, y sgiliau a’r wybodaeth sydd gan bobl sydd ag awtistiaeth i’w cynnig i’r gweithle.

Dywed Llywodraeth y Cynulliad fod llawer o fanteision i gyflogi oedolion sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig, gan eu bod nhw’n ddibynadwy, yn onest ac yn ymrwymedig, tri o’r nodweddion y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Meddai’r Dirprwy Weinidog, Gwenda Thomas: “Dw i wrth fy modd fod Robert Lloyd Griffiths wedi’i benodi i swydd Llysgennad Cyflogaeth Awtistiaeth Cymru.

“Fel Cyfarwyddwr Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru, mae ganddo ddealltwriaeth wych o’r ffordd y mae’r diwydiant yn gweithio ac mae mewn sefyllfa dda i drafod Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig gydag arweinwyr busnes allweddol ledled Cymru.

“Fe all Llywodraeth y Cynulliad chwarae rhan bwysig drwy gymryd camau i sicrhau bod mwy o gyfleoedd gwaith cynaliadwy ar gael i bobl sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.
Does dim amheuaeth gen i bod modd gwella busnesau ac economi Cymru drwy gyflogi pobl sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig.”

Llun: Gwenda Thomas (o wefan y Cynulliad)