Mae rhai o ddeifwyr mwyaf addawol Prydain wedi “ysbrydoli” plant yng Ngwynedd ar ôl arddangosiad deifio arbennig ym Mhwll Nofio Bangor dros y penwythnos, yn ôl rheolwr y Ganolfan.

Roedd y digwyddiad yn rhan o daith gan un o glybiau deifio amlycaf Gwledydd Prydain, Clwb Deifio Harrogate, sy’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o ddeifio yng Nghymru.

Ddydd Sadwrn, roedd dros 30 o nofwyr ifanc ar draws Wynedd yn cael cyfle i fod yn rhan o’r arddangosfa. Fe ddywedodd rheolwr pwll nofio Bangor, Mark Williams wrth Golwg360 fod y criw deifwyr ifanc “wrth eu boddau” gyda’r profiad.

Roedd tua 150 o bobl yn bresennol i gyd, meddai.

Eisoes, roedd wedi dweud ei bod yn “anodd mynd i mewn i ddeifio yng Nghymru” oherwydd mai dau bwll nofio sydd gyda byrddau plymio yng Nghymru.

“Roedd o’n brofiad ffantastig iddyn nhw. Roedd o’n gyfle iddyn nhw weld efallai sut fyddan nhw os ydyn nhw’n cario ymlaen gyda gwersi deifio,” meddai cyn dweud bod y digwyddiad yn “llwyddiant aruthrol.”

Mae’r pwll nofio yn ceisio hyrwyddo deifio yng Ngwynedd gan gynyddu ymwybyddiaeth o’r gamp. Roedd rhai aelodau o Glwb Deifio Harrogate wedi bod i Gemau’r Gymanwlad ac un yn gobeithio mynd i’r Olympics, meddai Mark Williams.

Llun: Pwll nofio Bangor (o wefan Cyngor Gwynedd)