Mae Cadeirydd Theatr Gwent yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wyrdroi penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru i beidio ag ariannu eu darpariaeth theatr mewn addysg.

Fe wnaeth Gregg Tayler, cadeirydd Bwrdd Theatr Gwent a phlant o’r theatr gyflwyno deiseb i’r Cynulliad ynghyd â channoedd o lythyrau i Gyngor Celfyddydau Cymru ddoe yn “annog Llywodraeth Cymru” i sicrhau bod cyllid yn parhau ar gyfer Theatr Gwent.

Roedd 4,122 o lofnodion ar y ddeiseb a gafodd ei gyflwyno i’r Cynulliad ddoe a 740 o lythyrau i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ym mis Mehefin y clywson nhw eu bod ymhlith y cwmnïau sy’n diodde’ oherwydd toriadau gwario ac na fydd rhagor o grant iddyn nhw ar ôl mis Mawrth nesa’. Heb yr arian hwnnw, madden nhw, fe fydd hi’n amhosibl iddyn nhw ddarparu eu gwasanaeth Theatr mewn addysg i ysgolion yn ardal Gwent.

Prif obaith y Cadeirydd ar ôl cyflwyno’r ddeiseb a’r llythyron heddiw yw y bydd y Llywodraeth yn gwyrdroi penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru. Fe ddywedodd mai ateb “gwleidyddol” fyddai i’r sefyllfa y mae’r Theatr Gwent yn ei hwynebu ar hyn o bryd.

“Mae angen i’r Llywodraeth wneud yn siŵr fod gan bobl gyfleoedd cyfartal yng Nghymru,” meddai cyn dweud fod torri cyllid y theatr yn gwneud y sefyllfa’n “anghyfiawn.”

‘Siarad gyda wal’

Fe ddywedodd y Cadeirydd wrth Golwg360 fod “siarad gyda Chyngor Celfyddydau Cymru fel siarad gyda wal.”

“Mae fel bod Cyngor Celfyddydau Cymru’n meddwl ein bod ni’n rhyw fath o derfysgwyr yn eu bygwth nhw – ond yr hyn sy’n bwysig yn y sefyllfa hon yw cydraddoldeb mewn darpariaeth ar draws Cymru.

“Fel Cadeirydd – dw i wedi bod yn mynd drwy’r broses diswyddo gyda’r holl staff. Fe fydd yr effeithiau i’w gweld ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

“Dw i wedi rhoi hysbysiad i roi terfyn ar eu cyflogaeth iddyn nhw – ond byddan nhw’n dweud mai’r collwyr yw’r 200,000 o bobl ifanc yng nghymoedd y De-ddwyrain a arferai dderbyn theatr mewn Addysg,” meddai.

(Llun o wefan Theatr Gwent)