Mae’r gantores Lisa Jên Brown o fand 9bach wedi dweud wrth Golwg360 heddiw ei bod yn gobeithio y daw gŵyl gerddoriaeth ryngwladol WOMEX i Gymru.

Daw hyn wedi i Ddinas Caerdydd gael ei gosod ar y rhestr fer i groesawu WOMEX, prif ddigwyddiad arddangos cerddoriaeth y byd, yn 2013. Mae WOMEX yn cael ei disgrifio gan UNESCO fel “y farchnad broffesiynol, ryngwladol bwysicaf ar gyfer cerddoriaeth byd o bob math”.

Copenhagen oedd yn gyfrifol am groesawu’r digwyddiad eleni ac am y tro cyntaf erioed, cafodd cerddorion o Gymru – yn cynnwys Mabon, Calan, 9bach a Catrin Finch – gyfle i berfformio.

‘Anferth’

“Mae graddfa WOMEX yn anferth gyda bandiau’n dod o bob cwr o’r byd,” meddai Lisa Jen Brown.

Byddai cynnal yr ŵyl yng Nghaerdydd yn “gyfle gwych i fandiau o Gymru” ac yn dod â cherddoriaeth ryngwladol i’r wlad, meddai cyn dweud ei bod yn gobeithio bod yr ŵyl “wedi agor drysau” I 9Bach.

“Mae’r ffaith bod Caerdydd ar y rhestr fer hefyd yn dangos bod y cerddorion wnaeth gyfrannu i noson Cymru’r ŵyl eleni wedi gadael eu marc ar lwyfan y byd.

“Mae gan 9bach mwy o gefnogwyr o bosibl y tu allan i Gymru. Ar ôl perfformio yn WOMEX – rydan ni wedi cael pobl o ar draws y byd yn dweud ein bod ni’n unigryw. Ac er bod ni’n canu’n uniaith Gymraeg – mae hynny’n profi nad oes rhwystr iaith,” meddai Lisa Jen Brown.

WOMEX

Byddai WOMEX yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Arena Ryngwladol Caerdydd a chanolfannau eraill yn y Bae a’r Ddinas, rhwng y 23ain a’r 28ain o Hydref 2013.

Mae’r digwyddiad rhyngwladol yn cynnwys 57 o gyngherddau gan 450 o artistiaid, ffair fasnach gyda 280 o stondinau a mwy na 650 o gwmnïau yn arddangos, yn ogystal â mwy na 400 o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Gallai hon fod y flwyddyn gyntaf o gytundeb dwy flynedd.

“ Mae yna nifer fawr o ddinasoedd yn ymgiprys am gael croesawu’r ŵyl hon ac mae’n newydd da iawn bod Caerdydd ar restr fer o dair,” meddai Nigel Howells, aelod cabinet Cyngor Caerdydd ar Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant.

“Byddai croesawu digwyddiad o’r fath fri yn gryn gamp i Gaerdydd, gan roi’r ddinas ar lwyfan byd a chadarnhau ein gallu i gyflawni a hynny i’r safonau uchaf posibl.”

Llun: 9Bach (o wefan WOMEX)