Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n sefydlu cronfa fenthyciadau lleol o £3 miliwn i gefnogi cwmnïau lleol sy’n ei chael yn anodd sicrhau benthyciadau gan y banciau.
Daw hyn wedi i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gadarnhau fod mwy o fusnesau wedi cau yn 2009 nag yn unrhyw flwyddyn arall y ganrif hon. Fe gaeodd 279,000 o fusnesau ym Mhrydain yn 2009 – y nifer uchaf ers dechrau cadw’r cofnodion yn y flwyddyn 2000.
Y gronfa hon gan Gyngor Gwynedd fydd y cyntaf o’i math yng Nghymru a bydd benthyciadau ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint sydd wedi’u lleoli yn y sir.
Bydd y gronfa’n darparu benthyciadau o rhwng £25,000 hyd at £100,000 gyda’r cyfle i fenthyg symiau mwy os bydd y diogelwch perthnasol yn ei le.
‘Allweddol’
“Mae cwmnïau bach a chanolig eu maint yn allweddol i economi Gwynedd. Wrth feddwl yn greadigol, ac ymateb i’r hyn y mae cwmnïau lleol wedi ei ddweud wrthym ni, mae Cyngor Gwynedd yn gwneud popeth y gallwn ni i gynnig y cymorth y mae ein busnesau ei angen,” meddai Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards.
Fe ddywedodd yr Arweinydd hefyd fod y gronfa’n tanlinellu’r ffaith fod Cyngor Gwynedd yn “barod i gymryd camau ymarferol er mwyn creu’r amgylchedd orau bosib lle y gall busnesau lleol lwyddo.”
Eisoes, roedd ymchwil a wnaed gan Gyngor Gwynedd “Ymateb i’r Dirwasgiad” yn dangos fod cwmnïau lleol yn ei chael hi’n anodd iawn i sicrhau benthyciadau gan y banciau yn ystod yr hinsawdd economaidd presennol. Roedd rhai sectorau penodol fel twristiaeth ac adeiladu yn ei chael arbennig o anodd i sicrhau benthyciadau.
Bydd cronfa benthyciadau Gwynedd yn ei le erbyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf – 2011/12.