Mae rheolwr Llanelli, Andy Legg, wedi ailadrodd ei alwadau i Uwch Gynghrair Cymru ystyried symud y tymor i’r haf, ar ôl i’r tywydd gaeafol ddechrau effeithio ar gemau unwaith eto.
Fe gafodd gêm Llanelli yn erbyn Hwlffordd dros y penwythnos ei gohirio yn ogystal â’r gêm yn erbyn Bangor neithiwr oherwydd y tywydd rhewllyd.
Mae ‘na amheuon hefyd ynglŷn â gêm nesaf Llanelli yn erbyn y Drenewydd ar y penwythnos.
Yn dilyn y tywydd gaeafol tymor diwethaf fe gafodd sawl un o gemau Llanelli eu gohirio. O ganlyniad i hynny bu rhaid iddynt chwarae wyth gêm mewn 19 diwrnod ar ddiwedd y tymor.
Angen chwarae gemau’n fuan
Fe allai sefyllfa debyg godi unwaith eto os fydd y tywydd rhewllyd yn parhau gan fod angen cwblhau chwarae gemau hanner cyntaf y tymor erbyn 15 Ionawr pan fydd yr adran gael eu rhannu’n ddwy.
“Os fydd gêm dydd Sadwrn yn cael ei gohirio eto, fe fydd ‘na straen arnom ni gan nad oes llawer o gyfle gennym i chwarae gemau canol wythnos,” meddai’r Legg ar wefan y clwb.
“Bydd angen i’r gynghrair ddelio gyda hynny, ac o’u hadnabod hwy, fe fydd siŵr o fod rhaid i ni chwarae pedair gêm mewn wythnos”
“Mae’n rhaid iddyn nhw gynllunio ar gyfer hyn oherwydd mae’n digwydd yn rhy aml. Efallai bod angen i ni edrych ar gael egwyl dros y gaeaf fel sydd eisoes yn digwydd mewn rhai gwledydd”
“Rwy’n meddwl y dylen ni dreialu pêl droed dros yr haf am ddwy flynedd, wedyn fydde’r broblem yma ddim gennym ni.”