Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud bod angen pump o chwaraewr newydd arno pan fydd y ffenest trosglwyddo yn ail agor ym mis Ionawr.

Fe fydd perchnogion y clwb yn cynnal trafodaethau ynglŷn ag unrhyw drosglwyddiadau’r wythnos yma, ac mae Jones yn credu byddai methu a chefnogi ei gynlluniau yn gallu bod yn gostus i’r Adar Glas.

Mae gan Gaerdydd eisoes un o garfannau cryfaf y Bencampwriaeth ar ôl i chwaraewyr megis Craig Bellamy, Seyi Olofinjana, Jason Koumas, Danny Drinkwater ac Andy Keogh ymuno ar gytundebau benthyg.

Mae gan glwb y brifddinas chwaraewyr o safon megis Jay Bothroyd, Michael Chopra, Chris Burke a Peter Whttingham hefyd.

Ond mae’r rheolwr wedi rhybuddio na fydd yn gallu sicrhau bod perfformiadau hanner cyntaf y tymor yn parhau heb fuddsoddiad pellach.

“Mae angen pedwar neu bum chwaraewr arnom i gryfhau’r garfan ac ein helpu ni i gael yr hyrddiad olaf,” meddai Jones wrth bapur y Western Mail.

“Rwy’n edrych ar chwaraewyr ac yn llunio rhestr, ond nid wyf yn siŵr os gallaf wneud unrhyw gytundebau eto”

“Fe fyddaf yn cael gwybod cyn hir pan fydd y bwrdd wedi penderfynu naill ai mynd amdani neu wneud yr hyn r’y ni wedi gwneud o’r blaen a gobeithio ein bod ni’n mynd i gael dyrchafiad.”

Mae Dave Jones wedi nodi yn y gorffennol bod methiant y clwb i gryfhau ym mis Ionawr wedi cyfrannu at fethu ag ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Y flaenoriaeth i Dave Jones yw amddiffynnwr newydd ac mae cyn chwaraewr yr Adar Glas, Glenn Loovens o Celtic ar frig ei restr.

Llun: Glenn Loovens, sy’n debygol o fod ar restr Dave Jones, yn chwarae i’w glwb presennol, Celtic