Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi condemnio penderfyniad un o gyflenwyr ynni mwyaf Cymru i godi prisiau nwy i gartrefi.
Fe ddywedodd Jonathan Edwards y bydd y penderfyniad yn effeithio ar lawer o gwsmeriaid ledled Cymru, yn enwedig y rhai mewn tlodi tanwydd a phobol fregus.
Mae Scottish & Southern Energy, rhaint-gwmni Swalec y cwmni mwyaf yn y farchnad yn ne Cymru, yn codi eu prisiau o 9.4% o heddiw ‘mlaen.
Roedd Jonathan Edwards wedi croesawu’r newyddion yr wythnos ddiwethaf y byddai’r corff rheoleiddio Ofgem yn cynnal ymchwiliad cynhwysfawr i arferion y cwmnïau sy’n gwerthu ynni yn y Deyrnas Unedig yn dilyn codiadau diweddar mewn prisiau.
Sylwadau Jonathan Edwards
“Mae’r codiadau prisiau hyn yn achos pryder, yn enwedig ar adeg pan fo’r tywydd eithriadol oer yn brathu,” meddai Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
“Mae hon yn broblem wirioneddol yng Nghymru lle mae traean o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd yn ôl y corff Gweithredu Cenedlaethol ar Ynni Cymru- ac y mae llawer eisoes yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta.
“Does dim cyfiawnhad o gwbl dros godiad mor enfawr mewn prisiau tra bod elw’r cwmnïau wedi codi o’r ffigwr aruthrol o 40% mewn dim ond tri mis.
“Mae angen i’r rheoleiddiwr adolygu o ddifrif arferion cystadleuol y cwmnïau ynni.”