Mae Aelod Seneddol wedi galw ar y cyfryngau i beidio a “chamddefnyddio” ffigyrau gwylio S4C.

Roedd Mark Williams, AS Ceredigion, yn siarad fel rhan o’r Pwyllgor Materion Cymreig sy’n cynnal ymchwiliad ynglŷn â dyfodol S4C.

Gofynnodd Mark Williams, sy’n aelod o’r pwyllgor, i lygaid dystion ynglŷn â’r ffordd y mae’r ffigyrau wedi cael eu defnyddio er mwyn beirniadu S4C.

Dywedodd fod yna amheuon ynglŷn â maint sampl BARB, sy’n casglu’r ffigyrau gwylio, a’r ffaith nad ydyn nhw’n cyfri plant dan dair oed.

“Dyw ffigyrau BARB ddim yn cynnig ffigyrau cwbl gywir ynglŷn â faint o bobol sy’n gwylio S4C, felly mae’n siomedig pan mae’r cyfryngau yn defnyddio’r ffigyrau er mwyn ymosod ar S4C,” meddai.

“Mae S4C wedi ei glodfori am ei raglenni plant gwych, ond mae’r ffaith nad ydyn nhw’n cyfri plant yn y ffigyrau yn golygu nad yw’r llwyddiant yna yn cael ei adlewyrchu.

“Mae’r ffigyrau yn gywir i ryw raddau, ond wrth ystyried y trafferthion sy’n bodoli wrth gyfri nifer gwylwyr rhai rhaglenni rhaid i’r cyfryngau fod yn ofalus ynglŷn â sut maen nhw’n defnyddio’r ffigyrau, ac yn anffodus dyw hynny ddim yn digwydd bob tro.”

Roedd cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws, corff Teledwyr Annibynnol Cymru, yn ogystal â llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar ddiwylliant a’r cyfryngau, Menna Machreth, yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor heddiw.

Dywedodd aelodau Cymdeithas yr Iaith a TAC bod angen sicrhau annibyniaeth y sianel a’i ddyfodol ar ôl diwedd cyfnod yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr yn 2015.

Dywedodd Meri Huws ei bod hi’n synnu na wnaeth Adran Diwylliant San Steffan drafod gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg cyn penderfynu torri cyllideb S4C a rhoi’r sianel dan adain y BBC.

Ychwanegodd fod yna bryder y byddai’r newidiadau yn cael effaith ar allu S4C i hyrwyddo’r iaith, ac ar annibyniaeth y sianel.