Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddyn ddwyn car wrth i’r gyrrwr grafu rhew oddi ar y ffenestr flaen.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn yn ei ugeiniau wedi gyrru i ffwrdd mewn Peugeot 307 arian y prynhawn yma, wrth i’r perchennog sefyll tu allan yn glanhau rhew oddi arno.
Roedd hi newydd fod yn siopa Nadolig ac fe gafodd y nwyddau eu dwyn o’r car, medden nhw.
Maen nhw’n galw am unrhyw lygaid dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â beth ddigwyddodd ar Hoel yr Odyn, ger Nantgarw, am 12.30pm heddiw.
Yn ôl yr heddlu mae’r lleidr honedig yn ŵr “golygus, yn ei ugeiniau, yn gwisgo crys-t pinc”.
Cafodd y ddynes oedd piau’r car ei gwthio o’r neilltu gan y dyn cyn neidio i mewn i’r car a gyrru i ffwrdd i gyfeiriad Caerffili.
Roedd gyrrwr y car newydd ei lenwi â nwyddau ar ôl iddi fod i siop gyfagos.
Daethpwyd o hyd i’r car beth amser yn ddiweddarach, ar ôl iddo gael ei adael ar Heol Nantgarw, heb y nwyddau drud, gan gynnwys teledu, a oedd yn y car yn wreiddiol.
“Roedd beth ddigwyddodd yn drawmatig iawn i’r gyrrwr ac wedi rhoi dipyn o siglad iddi,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Paul Latham.
“Er bod beth ddigwyddodd yn anarferol iawn, ac nad oes cysylltiad gydag unrhyw ddigwyddiad arall, rhaid i ni rybuddio unrhyw un sy’n llwytho a dadlwytho nwyddau drud wrth siopa Nadolig i fod yn fwy gwyliadwrus.
“Rydym ni’n edrych ar ffilm o gamerâu cylch cyfyng yr ardal ar hyn o bryd, ond dydyn ni ddim yn gwybod eto a oedd rywun arall yn helpu’r dyn, ac os oedd cerbyd arall yn gysylltiedig â’r achos.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda CID Pontypridd ar 101, neu gysylltu gyda Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.