Mae mam-gu wedi ei chyhuddo o daflu ei hwyres i’w marwolaeth mewn canolfan siopa yn Virginia.

Yn ôl heddlu, disgynnodd y ferch ddyflwydd oed chwe llawr o rodfa sy’n cysylltu’r ganolfan siopa a’r maes parcio yn Fairfax.

Aethpwyd a Angelyn Ogdoc i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, cafodd Carmela Dela Rosa (dde), 50 oed, ei harestio ar gyhuddiad o ymosod ar y ferch.
Ond fe fydd y cyhuddiad yn newid i lofruddiaeth nawr, yn dilyn marwolaeth Angelyn Ogdoc.

Roedd y fam-gu a’r ferch fach yn gadael y ganolfan siopa gyda theulu pan, yn ôl adroddiadau, fe gododd Caremla Dela Rosa y ferch fach i fyny, a’i thaflu hi oddi ar y rhodfa.