Mae heddlu yn Unol Daleithiau yn ymchwilio ar ôl i gwsmer ymosod ar ddynes 100 mlwydd oed mewn archfarchnad Walmart yn America.
Yn ôl heddlu yn America, roedd y ddynes 100 mlwydd oed yn gweithio yn y siop Walmart.
Cafodd Lois Speelman ei gwthio gan gwsmer ar ôl ceisio gwneud yn siŵr ei bod hi wedi talu am y nwyddau yng ngwaelod ei throli.
Aethpwyd a hi i’r ysbyty ar ôl iddi gael ei gwthio ddydd Sul. Er gwaethaf ei chleisiau mae hi’n gobeithio dychwelyd i’r gwaith dydd Iau.
Gwrthododd Lois Speelman ag ateb rhagor o gwestiynau gan nad oedd hi eisiau colli ei swydd, ac am nad oedd yr ymchwiliad ar ben.
Doedd gan lefarydd ar ran Walmart ddim mwy o fanylion, ond dywedodd mai “iechyd Ms Speelman yw’n gofid pennaf ni”.