Mae gwrthwynebydd nesaf Nathan Cleverly wedi dweud y bydd o’n maeddu’r Cymro ar dir Prydeinig pan fydd y ddau yn wynebu ei gilydd yn hwyrach yn y mis.
Mae Alejandro Lakatos yn credu y bydd yn dod a gobeithion y Cymro o ennill coron interim is-bwysau WBO i ben pan fydd y ddau yn cyfarfod yn Lerpwl ar 11 Rhagfyr.
Ond y Cymro diguro yw’r ffefryn i ennill a mynd yn ei flaen i herio pencampwr y byd Juergen Braehmer.
Ond mae’r bocsiwr sy’n wreiddiol o Rwmania, ond sy’n byw yn Sbaen erbyn hyn, yn hyderus mai ef fydd piau’r fuddugoliaeth.
“Fe fydd Cleverly mewn trafferthion os fydd o’n bocsio fel y gwnaeth o yn erbyn Karo Murat,” meddai Alejandro Lakatos.
“Rydw i wedi dod yn agos at ennill y goron o’r blaen, ond y tro hwn fe fyddai’n gwireddu fy mreuddwyd.
“Mae pobol yn dweud bod Cleverly yn focsiwr gwell na beth yw e’ mewn gwirionedd, ac fe fyddaf yn dangos hynny i bawb ar 11 Rhagfyr.”
Mae Lakatos wedi ennill 31 gornest yn ystod ei yrfa ond mae o hefyd wedi colli pump, gyda dwy yn gorffen yn gyfartal.
Mae Cleverly wedi ennill pob un o’u 20 gornest ac mae o eisoes wedi cipio coron is-bwysau Ewrop.