Ni fydd myfyrwyr o Gymru yn gorfod talu ffioedd dysgu uwch lle bynnag ym Mhrydain y maen nhw’n mynd i’r brifysgol, dan gynlluniau amlinellwyd heddiw.
Wrth ymateb i gynigion y Llywodraeth ynglŷn â chynnydd mewn ffioedd dysgu yn Lloegr, dywedodd gweinidog addysg Cymru y byddai myfyrwyr Cymru’n talu’r un ffioedd yn 2012 ag y maen nhw eleni.
Dywedodd Leighton Andrews wrth aelodau Cynulliad Cymru ei fod o’n bwriadu talu’r ffioedd dysgu trwy dorri’r nawdd sy’n cael ei roi i brifysgolion Cymru.
Fe fydd Prifysgolion Cymru yn codi’r un tal, sef £6,000, sy’n cael ei gynnig ar gyfer prifysgolion Lloegr yn 2012-13.
Fe fyddwn nhw hefyd yn cael codi hyd at £9,000 os ydyn nhw’n gallu dangos eu bod nhw’n gwneud ymdrech i ddenu ystod fwy eang o bobol ac yn cwrdd â “amcanion strategol eraill”.
Dangos ‘budd datganoli’
Ond dywedodd Leighton Andrews y byddai’n talu am y cynnydd yng nghostau myfyrwyr o Gymru.
“Mewn geiriau eraill, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn talu am y cynnydd yn ffioedd myfyrwyr o Gymru, os ydyn nhw’n astudio yn Lloegr, Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,” meddai wrth y Senedd.
“Ni fydd rhaid i fyfyrwyr o Gymru dalu £6,000 na chwaith £9,000 er mwyn astudio.
“Fe fydd y pwrs cyhoeddus yn parhau i dalu am addysg uwch i fyfyrwyr o Gymru.
“Fe fydd myfyrwyr o Gymry sy’n mynd i’r brifysgol yn 2012-13 yn talu’r un faint a myfyrwyr sy’n mynd i brifysgol eleni.
“Mae hwn yn bolisi sydd wedi ei greu yng Nghymru ac sy’n dangos budd datganoli,” ychwanegodd wedyn.
“Rydym ni’n parhau gyda’r egwyddor y dylai’r wladwriaeth dalu am addysg uwch a rhoi’r un cyfle i bawb.
“Yng Nghymru rydym ni’n parhau’n ymroddedig i helpu’r rheini sydd dan anfantais i gael mynediad i addysg.”