Mae’r BBC wedi datgelu rhestr fer Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y flwyddyn, cyn y seremoni wobrwyo ar 6 Rhagfyr.
Mae seren pêl-droed Tottenham a Chymru, Gareth Bale ymysg y ffefrynnau ar ôl ei berfformiadau gwych dros ei glwb y tymor yma.
Mai’r neidiwr clwydi Dai Green hefyd ar y rhestr ar ôl cipio’r fedal aur yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd ac yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi.
Mae’r bocsiwr diguro Nathan Cleverly hefyd ar y rhestr ar ôl ychwanegu coron is-bwysau Ewrop at ei goron Prydeinig.
Mae Jazz Carlin hefyd ar y rhestr ar ôl iddi ennill medalau nofio cyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad mewn 36 mlynedd, gydag un fedal arian ac un efydd i’w henw.
Mae’r feicwraig, Becky James hefyd yn cystadlu ar ôl ennill dwy fedal yn Delhi.
Yr olaf ar y rhestr yw Robert Weale a enillodd y fedal aur yng nghystadleuaeth bowlio lawnt Gemau’r Gymanwlad yn Delhi. Ef yw’r bowliwr mwyaf llwyddiannus yn hanes Gemau’r Gymanwlad, ar ôl ennill chwe medal.