Martyn Williams yw’r unig chwaraewr o Brydain sydd wedi cael ei ei ddewis yn nhîm y Barbariaid fydd yn wynebu De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Mae blaenasgellwr Cymru a’r Gleision wedi ei ddewis ar ochr agored y rheng ôl. Mae mwyafrif y chwaraewyr eraill o Awstralia a Seland Newydd.
Ond mae un o gyd-chwaraewr Williams, gyda’r Gleision, John Yapp ar y fainc.
Yr unig chwaraewyr eraill sydd yn y garfan, ond na fydd yn chwarae i’r Crysau Duon neu’r Wallabies, yw’r Eidalwyr Salvatore Perugini a Quintin Geldenhuys ac asgellwr Fiji, Seru Rabeni.
Maswr Awstralia, Matt Giteau, yw capten y tîm a dywedodd ei fod o’n fraint cael arwain y tîm.
“Mae’n anrhydedd mawr ac rwy’n ddiolchgar i bwyllgor y Barbariaid am ddangos hyder ynof fi,” meddai Giteau.
Carfan y Barbariaid
James O’Connor (Awstralia), Joe Rococoko (Seland Newydd), Drew Mitchell (Awstralia), Adam Ashley-Cooper (Awstralia), Ma’a Nonu (Seland Newydd), Matt Giteau (Awstralia), Will Genia (Awstralia).
Salvatore Perugini (Yr Eidal), Stephen Moore (Awstralia), Neemia Tialata (Seland Newydd), Anton van Zyl (Stormers), Chris Jack (Seland Newydd), Rodney So’oialo (Seland Newydd ), Martyn Williams (Cymru), Colin Bourke (Chiefs).
Eilyddion- Keven Mealamu (Seland Newydd), John Yapp (Cymru), Quintin Geldenhuys (Yr Eidal), Daniel Braid (Seland Newydd), Andy Ellis (Seland Newydd), Stephen Donald (Seland Newydd), Seru Rabini (Fij).