Mae Bangor wedi cryfhau eu carfan trwy arwyddo Mark Smyth i’r clwb am y trydydd tro yn ei yrfa.

Mae’r chwaraewr canol cae, ddechreuodd ei yrfa gyda Lerpwl, yn ymuno gyda chlwb Ffordd Farrar wrth i’r rheolwr Nev Powell baratoi ar gyfer ail hanner y tymor.

Fe ymunodd Smyth gyda Bangor am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2006, ar ôl cyfnod gydag Accrington Stanley a Vauxhall Motors.

Fe ymadawodd i chwarae gyda Leigh RMI ym mis Hydref 2007 cyn dychwelyd i Fangor am gyfnod byr i helpu gydag ymgyrch Cwpan UEFA y clwb.

Enillodd y clwb Gwpan Cymru ar ôl iddo ddychwelyd unwaith eto ym mis Mehefin 2009 ac er iddo adael Bangor ar ddiwedd y tymor hwnnw mae o wedi penderfynu dod yn ôl unwaith eto.

Mae Bangor hefyd wedi ymestyn cytundebau’r asgellwr, Eddie Jebb a’r amddiffynnwr Peter Hoy.