Mae golwr Abertawe, Dorus de Vries wedi dweud bod rhaid i’r Elyrch daro ‘nôl yn erbyn Ipswich ar ôl colli yn erbyn Portsmouth yr wythnos diwethaf.
Dywedodd y gôl-geidwad bod Abertawe wedi ymateb yn dda i golli hyd yma’r tymor hwn a bod angen gwneud hynny eto er mwyn cadw o fewn cyrraedd i QPR ar frig y tabl.
Mae pob tîm yn mynd trwy gyfnodau anodd yn y Bencampwriaeth, ond y gallu i ymateb i ganlyniad siomedig sy’n eu gwahanu nhw, meddai.
“Dyna yw meddylfryd pob tîm da ac rwy’n credu ein bod ni wedi dangos yn y gorffennol fod gennym ni’r gallu i daro ‘nôl yn syth,” meddai Dorus de Vries.
“Ar ôl colli yn erbyn Dinas Bryste yn ddiweddar, roeddwn ni wedi taro ‘nôl yn erbyn Middlesborough.
“Rwy’n edrych ymlaen at y gêm nesaf a dechrau ar rediad da arall.”