Derbyniodd dynes o Landudno fodrwy dyweddïo gan ei chariad – drwy gyfrwng tylluan.
Trefnodd Jason Jenkins bod tylluan yn hedfan at Melissa Bowen o Landudno gyda’r fodrwy wedi ei glymu i’w ffer.
Cariodd y dylluan y fodrwy mewn bag melfed pinc gan lanio ar fraich y ferch, meddai perchennog y Ganolfan Hebogau yn Swydd Gaer, Steve Birchall wrth Golwg360.
Mae’r canolfan hebogau yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr o ogledd Cymru, meddai. Dyma’r amser prysuraf o’r flwyddyn i’r cwmni sy’n berchen 80 o adar.
Mae’r cwmni’n cynnig profiadau arbennig i bobol sy’n cynnwys hedfan hebogau a thylluanod, meddai.