Mae Pwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd yn ymchwilio ar ôl honiadau o dwyll gan is-lywydd Fifa, Issa Hayatou, ar raglen Panorama neithiwr.
Mae Issa Hayatou hefyd yn aelod o Bwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd. Yn ôl y rhaglen a ddarlledwyd neithiwr derbyniodd gil-dwrn o £10,000 ym 1995 gan gwmni marchnata ISL, sydd ddim bellach yn bodoli.
“Mae’r Pwyllgor wedi nodi’r honiadau gan Panorama, ac fe fyddwn ni’n gofyn i gynhyrchwyr y rhaglen basio unrhyw dystiolaeth sydd ganddyn nhw ymlaen at yr awdurdodau pwrpasol,” meddai llefarydd ar ran Pwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd.
“Dyw Pwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd ddim yn goddef unrhyw lygredd, ac fe fydd y mater yn cael ei gyfeirio at gomisiwn moesau’r Pwyllgor.”