Fe fydd y gweinidog sy’n gyfrifol am ffioedd myfyrwyr yn gwrthod pleidleisio o blaid ei bolisi ei hun, cyhoeddodd heddiw.

Yn ôl yr ysgrifennydd busnes, Vince Cable, fe fyddai’n barod i beidio â chefnogi ei gynnig ei hun, er lles undod ei blaid.

Mae Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn trafod modd o ddatrys yr hyn mae Vince Cable yn cyfaddef sy’n sefyllfa “anodd” i‘r glymblaid yn San Steffan.

Mae’r cytundeb clymbleidiol yn caniatáu i Aelodau Seneddol y Rhyddfrydwyr wrthod pleidleisio, ond dyw sefyllfa gweinidogion o fewn y Llywodraeth ddim yn eglur.

“Mae fy sefyllfa i rywfaint yn wahanol, ond dwi’n fodlon cymryd yr un safiad â fy nghyd-Ryddfrydwyr,” meddai.

Mynnodd Vince Cable ei fod e’n parhau i gefnogi ei bolisi ei hun, ond ei fod o’n fodlon cadw draw o’r bleidlais, sydd i’w chynnal cyn y Nadolig, er mwy sicrhau undod o fewn ei blaid.

Mae yna bryder y bydd sawl un o fewn ei blaid yn penderfynu pleidleisio yn erbyn ei bolisi, os ydi o ac ambell aelod blaenllaw arall yn pleidleisio o blaid.

“Fe fyddwn i’n ddigon hapus cefnogi os ydan ni i gyd yn ymwrthod rhag pleidleisio,” meddai.

Downing Street dan bwysau

Mae Downing Street wedi dod o dan bwysau i egluro a ydi cytundeb y glymblaid yn cymryd blaenoriaeth dros y confensiwn bod rhaid i bob gweinidog ac aelod o’r cabinet bleidleisio gyda’r Llywodraeth.

Dyw’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ddim eto wedi dweud a fydd yn fodlon ymwrthod â’r bleidlais os mai dyna benderfyniad mwyafrif ei blaid.

Mae’r Blaid Ryddfrydol wedi cael ei beirniadu’n chwyrn gan fyfyrwyr sy’n eu cyhuddo o fradychu eu haddewid i wrthwynebu ffioedd dysgu yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

O ganlyniad i gynlluniau’r Llywodraeth fe allai ffioedd myfyrwyr godi o £3,375 y flwyddyn i gymaint â £9,000 y flwyddyn.