Mae cartrefi yng Nghymru yn gwario llai mewn wythnos ar gyfartaledd o’i gymharu gyda rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Dyna y mae adroddiad blynyddol Gwariant Teulu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei ddangos am 2009.
Yn ôl yr adroddiad blynyddol gwariodd cartrefi yn y Deyrnas Unedig £455 yr wythnos ar gyfartaledd yn 2009 o’i gymharu gyda £471 yn 2008.
Dyma’r tro cyntaf i’r ffigwr hwnnw ddisgyn mewn degawd.
Ond mae gwariant cyfartalog cartrefi yng Nghymru yn llawer is na’r cyfartaledd ar draws Prydain, gyda dim ond £396.10 yn cael ei wario bob wythnos yn 2009.
Dim ond rhanbarth Gogledd Ddwyrain Lloegr oedd wedi gwario llai yn wythnosol y llynedd.
Gostyngiadau
Trafnidiaeth oedd teuluoedd ym Mhrydain yn gwario fwyaf arno – £58.40 ar gyfartaledd. Ond roedd hyn dal 8% yn is nag yn 2008.
Roedd yna gwymp yn faint oedd yn cael ei wario ar adloniant a diwylliant hefyd – £57.90 yn 2009 o’i gymharu â £60.10 yn 2008.
Fe aeth gwariant ar dai, ynni a phŵer i fyny o £53.00 yn 2008 i £57.30 yn 2009.
Roedd llai o wariant ar wyliau hefyd gyda £14.70 yn cael ei wario yn wythnosol yn 2008 o’i gymharu gyda £13.20 y llynedd.
“Dyma’r gostyngiad blynyddol cyntaf yng ngwariant cyfartalog cartrefi’r Deyrnas Unedig ers dechrau cadw cofnod yn 2001-02,” meddai Giles Horsfield o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Mae’n ddiddorol bod gwariant ar ddillad wedi disgyn am y drydedd flwyddyn yn olynol.”