Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi amddiffyn y Mesur Iaith yn y Senedd heddiw.
Wfftiodd alwadau gan y Democratiaid Rhyddfrydol i gynnwys statws diamod i’r Gymraeg yn y mesur.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, bod gan y Cynulliad gyfle hanesyddol i wneud yn iawn am ganrifoedd o niwed i’r iaith Gymraeg.
Wrth ateb cwestiynau yn y Senedd, dywedodd Carwyn Jones bod y Mesur Iaith, rhan allweddol o Gytundeb Cymru’n Un, yn “gadarn”.
Dywedodd y byddai statws diamod i’r Gymraeg yn golygu y gallai’r iaith gael ei ddefnyddio ar bob achlysur, ym mhob rhan o Gymru a dan unrhyw amgylchiadau.
“Dydw i ddim yn credu fod hynny yn ffordd ymarferol o hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac fe fyddwn i’n eich annog chi i feddwl yn galed ynglŷn â chanlyniadau gwelliant sydd wedi ei eirio mor benagored,” meddai.
“Mae hwn yn ddeddfwriaeth ac mae’n gwbl angenrheidiol bod y ddeddfwriaeth yn gadarn. Mae’n amlwg nad yw hynny’n bwysig i’r Democratiaid Rhyddfrydol.”
Dywedodd Kirsty Williams ei bod hi’n cytuno gyda llythyr gan 80 o Gymry blaenllaw sy’n galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ail ysgrifennu’r mesur.
Ddoe ymatebodd ymgyrchwyr iaith i lythyr gan Alun Ffred Jones ar wefan Golwg 360 yn esbonio pam na fydd y Mesur Iaith yn cynnwys statws diamod i’r Gymraeg.
“Beth sydd ei angen yw ymrwymiad clir gan y llywodraeth yma i wneud beth mae sawl arbenigwr eisiau iddyn nhw ei gwneud,” meddai Kirsty Williams.
“Mae gan aelodau Llywodraeth y Cynulliad gyfle hanesyddol i wneud yn iawn am y canrifoedd o niwed y mae’r gyfraith wedi ei wneud i’r iaith Gymraeg.