Mae teulu Bradley Manning, sy’n cael ei amau o roi dogfennau cudd i WikiLeaks, wedi eu rhwystro rhag ymweld ag ef yn y carchar ar ôl taith o Gymru i’r Unol Daleithiau.

Cafodd Bradley Manning ei eni yn Oklahoma ond symudodd i fyw i Gymru gyda’i fam. Mae ei deulu yn byw yn Sir Benfro ar hyn o bryd.

Arestiwyd Bradley Manning ym mis Mai ar ôl i WikiLeaks ryddhau darn o ffilm o hofrenyddion Apache yn lladd dau o weithwyr Reuters yn Irac yn 2007.

Mae o wedi ei gyhuddo o drosglwyddo gwybodaeth gudd, ac fe allai wynebu 52 mlynedd yn y carchar.

Mae’rPentagon hefyd yn edrych a oes cysylltiad rhyngddo â’r cannoedd o filoedd o ddogfennau o ryfeloedd Afghanistan ac Irac ryddhawyd gan WikiLeaks dros y misoedd diwethaf.

Yn y pythefnos diwethaf teithiodd pedwar aelod o deulu Bradley Manning, gan gynnwys ei fam Susan, o Sir Benfro yn y gobaith o ymweld ag ef.

Ond dywedodd cyfaill i’r teulu wrth bapur newydd y Daily Telegraph bod cais i weld y milwr 23 oed, sy’n cael ei ddal mewn cell ar wahân i’r carcharorion eraill, wedi ei wrthod.

Mae Bradley Manning wedi ei garcharu mewn canolfan filwrol yn Quantico, Virginia, ar hyn o bryd.

“Roedden nhw wedi gobeithio gweld Bradley ond doedd dim hawl iddyn nhw wneud hynny am ei fod o mewn carchar milwrol,” meddai’r cyfaill.

Mae’n debyg bod tad Bradley Manning, Brian, sy’n dod o’r Unol Daleithiau, wedi gofyn i deulu’r milwr yng Nghymru i beidio trafod y mater gyda’r wasg.

Gwahanodd Susan a Brian Manning yn 2001.