Mae mwy nag 100 o ymgeiswyr seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar yr arweinydd, Nick Clegg i wrthwynebu codi ffioedd dysgu.

Rhybuddiodd 104 o ymgeiswyr y byddai’r blaid yn wynebu “blynyddoedd yn y diffeithwch gwleidyddol” os nad oedd ASau yn gwrthwynebu cynlluniau’r Llywodraeth.

Mae disgwyl pleidlais ar y mater yn San Steffan fis nesaf ac mae’r Llywodraeth wedi dod i gytundeb fydd yn caniatáu i rai o ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol wrthod pleidleisio.

Ond mae’r ddeiseb sydd wedi ei arwyddo gan 104 o ymgeiswyr yn galw am bleidleisio yn erbyn y mesur.

“Yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol roedd nifer o’n ASau wedi arwyddo cytundeb gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i bleidleisio yn erbyn unrhyw gynnydd mewn ffioedd dysgu,” meddai’r ddeiseb.

“Roedd geiriad yr addewid yn ei gwneud hi’n glir nad oedd hyn yn dibynnu ar a oedd y blaid mewn llywodraeth ai peidio.

“Mae’r blaid wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’u safbwynt ar ffioedd dysgu ers blynyddoedd, ac rydym ni’n teimlo y dylen nhw gael eu diddymu.”

Mae’n debyg y bydd y Gweinidog Busnes, Vince Cable, yn cynnal trafodaethau gyda’r ymgeiswyr sydd wedi arwyddo’r ddeiseb heddiw.

Mae’r cynigion i ganiatáu i brifysgolion godi ffioedd dysgu i £9,000 y flwyddyn wedi arwain at ddeuddydd o brotestio gan fyfyrwyr a darlithwyr fis yma.