Mae gwyddonydd niwclear blaenllaw o Iran wedi ei ladd ac un arall wedi ei anafu mewn dau o ffrwydradau ar wahân yn y brifddinas Tehran.

Yn ôl gwefan sianel deledu’r wladwriaeth roedd ymosodwyr ar feiciau modur wedi glynu bomiau i ffenestri ceir y gwyddonwyr wrth iddyn nhw gael eu gyrru i’w gwaith y bore ma.

Lladdodd un o’r bomiau Majid Shahriari, aelod o adran peirianneg niwclear Prifysgol Tehran, ac anafu ei wraig.

Cafodd y ffisegydd niwclear Fereidoun Abbasi ei anafu’n ddifrifol yn yr ail ymosodiad.

Mae Iran wedi dweud eu bod nhw’n amau bod yr ymosodiad yn rhan o ymgais gan y Gorllewin i danseilio rhaglen niwclear y wlad.