Mae undeb amaethyddol wedi gwobrwyo myfyriwr sy’n galw am ddysgu ffermio fel pwnc mewn ysgolion cynradd.

Enillodd traethawd 1,000 gair gan fyfyriwr o Sir Fynwy, Phillippa Maidment, ysgoloriaeth £700 gan Undeb Amaethwyr Cymru eleni.

Dywedodd Phillippa Maidment bod angen gwella delwedd y diwydiant er mwyn denu mwy o bobol ifanc, ac mai oed cyfartalog ffermwr yng Nghymru ydi 59.

Derbyniodd y fyfyrwraig sydd bellach yn astudio cwrs rheoli eiddo amaethyddol ym Mhrifysgol Harper Adams, Swydd Amwythig, y siec yn Ffair Aeaf Brenhinol Cymru heddiw.

Roedd ei thraethawd yn dadlau y byddai yna effaith niweidiol ar y diwydiant yng Nghymru os nad oedden nhw’n dod o hyd i ffordd o ddenu mwy o bobol ifanc i ffermio.

“Mae mwyafrif y ffermwyr yn dod o’r genhedlaeth hŷn ac mae yna ddiffyg syniadau newydd yn dod i mewn i amaethyddiaeth,” meddai Phillippa Maidment.

“Mae gan y diwydiant enw drwg ar hyn o bryd. Mae pobol ifanc yn credu bod y tâl yn isel, yr oriau yn hir, a’r gwaith yn anodd.

“Does dim cyfle i bobol ifanc ddod i ddeall sut mae fferm yn gweithio os nad ydyn nhw o gefndir ffermio.

“Un ffordd amlwg i daclo’r broblem fyddai cyflwyno gwersi amaethyddol i’r dosbarth, gan ddechrau yn yr ysgol gynradd.”