Mae un o Geidwadwyr blaenllaw’r wrthblaid ym Mae Caerdydd wedi gadael y meinciau blaen.
Cyhoeddwyd bore ma bod y gweinidog iechyd Andrew RT Davies wedi ymddiswyddo o Gabinet yr wrthblaid yn y Cynulliad.
Mae’n cael ei ystyried yn olynydd amlwg i Nick Bourne pe na bai hwnnw yn ailennill ei sedd yn y Cynulliad yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
Mae’r Ceidwadwyr wedi bod dan bwysau gan y pleidiau eraill i esbonio sut y bydden nhw’n ariannu addewid i warchod y gyllideb iechyd pe baen nhw’n cipio grym yn y Cynulliad.
Nhw yw’r unig blaid ym Mae Caerdydd sydd wedi addo cynyddu’r gyllideb iechyd yn unol â chwyddiant. Ond yn ôl y pleidiau eraill fe fyddai hynny’n arwain at doriadau mawr mewn adrannau eraill.
‘Cyfle da’
Dywedodd Andrew RT Davies ei fod o wedi bod yn ystyried camu o’r neilltu “ers amser hir”.
“Rydw i wedi rhoi gwybod i arweinydd Ceidwadwyr Cymru fy mod i eisiau rhoi’r gorau i fy safle o fewn cabinet yr wrthblaid yn syth,” meddai.
“Fe awgrymais i hyn i Nick Bourne dydd Sadwrn ac mae o’n rhywbeth rydw i wedi bod yn ei ystyried ers cryn amser.
“Wrth i newidiadau gael eu gwneud i dîm y meinciau blaen, roeddwn i’n teimlo y byddai’n gyfle da i wneud y newid.
“Rydw i’n edrych ymlaen at chwarae rhan lawn a gweithgar o’r meinciau cefn, gan fynegi pryderon a gobeithion pobol Canol De Cymru.
“Rydw i’r un mor ymroddedig ag erioed i’r Ceidwadwyr Cymreig a’u polisïau ac fe fyddai’n gweithio’n ddiflino er mwyn datblygu llais Ceidwadol cryf i bobol Cymru.”
‘Uchel ei barch’
Mae Nick Bourne wedi cyhoeddi newid i Gabinet yr wrthblaid yn dilyn ei ymddiswyddiad.
Nick Ramsey, cyn weinidog cyllid yr wrthblaid, fydd eu gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol newydd.
Bydd Nick Bourne ei hun yn cymryd yr awenau yn weinidog cyllid yr wrthblaid.
“Roedd Andrew yn aelod uchel ei barch o Gabinet yr wrthblaid ac mae ei benderfyniad yn syndod i’r tîm,” meddai Nick Bourne.
“Bydd y newidiadau yma yn sicrhau bod Ceidwadwyr Cymru yn parhau i fod yn wrthblaid effeithiol i Lywodraeth Llafur a Phlaid Cymru.”