Mae’r BBC wedi ymddiheuro ar ôl cael eu beirniadu am beidio â dangos saith munud cyntaf gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd.

Penderfynodd y gorfforaeth aros gyda gêm dennis Andy Murray yn erbyn Rafael Nadal ar BBC2 yn hytrach nag dangos dechrau’r gêm.

Roedd hi i’w gweld yn llawn ar sianel S4C neu ar y botwm coch ar BBC2.

“Roedd gêm Andy Murray a Rafael Nadal wedi mynd ymlaen yn llawer hirach na’r disgwyl ac wedi cyrraedd eiliad allweddol,” meddai llefarydd ar ran y BBC.

“Roedden ni’n teimlo bod yn rhaid aros gyda’r gêm tan iddi orffen.

“Fe aethon ni’n syth i’r rygbi’r eiliad y daeth y tennis i ben. Rydym ni’n ymddiheuro am achosi unrhyw anhwylustod i gefnogwyr rygbi Cymru.”

Eisiau esboniad

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud y bydden nhw’n gofyn i’r BBC am esboniad ynglŷn â’r penderfyniad.

“Roedden ni’n siomedig iawn bod y BBC wedi penderfynu peidio â dangos dechrau gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd yn fyw o Stadiwm y mileniwm,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis.

“Fe wnaeth cefnogwyr Cymru ar draws Prydain fethu’r cyfle i weld rhan epig a phwysig o’r gêm.”

Dywedodd bod gan yr undeb “berthynas dda” gyda’r BBC ond eu bod nhw’n “anhapus a’n siomedig” gyda’r penderfyniad.

Roedd dechrau’r gêm yn cynnwys munud o dawelwch i gofio’r rheini fu farw ym mhwll glo Pike River yn Seland Newydd, haka’r tîm buddugol, a chic gosb gyntaf Stephen Jones.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Alun Davies wrth bapur newydd y Western Mail na “fyddai hyn wedi digwydd pe bai Lloegr yn chwarae. Mae’n fater diwylliannol o fewn y BBC.”

Mae ffigyrau’r BBC yn dangos bod 2m wedi gwylio’r tennis a 2.4miliwn wedi gwylio’r gêm rygbi.