Y Gweilch 19 Leinster 15
Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gweilch, Scott Johnson, yn dweud ei fod yn hapus gydag ymdrechion ei dîm wrth guro Leinster yn Stadiwm Liberty a mynd i’r pumed safle yng Nghynghrair Magners.
Ond doedd e ddim mor hapus am safon y perfformiad, gyda’r ymwelwyr yn arwain 10-9 ar hanner amser yn dilyn cais gan yr asgellwr, Andrew Conway.
Fe aeth y rhanbarth Cymreig ar y blaen wedyn wrth i Dan Biggar lwyddo gyda’i bedwaredd gic gosb cyn i Isa Nacewa sgorio cais i Leinster.
Ond fe bwysodd y Gweilch ar linell y Gwyddelod gyda sgrymio cadarn ac fe gafodd eu hymdrechion eu gwobrwyo gyda chais cosb i gipio’r fuddugoliaeth.
‘Diffyg profiad’
“R’yn ni’n hapus i ennill ond doedd y perfformiad ddim yn dda iawn,” meddai Scott Johnson.
“Nid hon oedd y gêm orau i’w gwylio, ond roedd yn ganlyniad gwych. Roedd ymdrechion y bois yn dda, ond pan mae gyda chi grŵp newydd yn chwarae mae yna ddiffyg profiad yno.
“Ond roedden ni’n ymwybodol y byddai’n gyfnod anodd i ni gan fod cymaint o chwaraewyr yn eisiau. Ond mae’n neis gweld bod hyder yn tyfu yn rhai o’r chwaraewyr ifanc.”
Llun: Scott Johnson