Fe fydd Caerdydd yn wynebu tîm o’r Uwch Adran yn nhrydedd rownd y Cwpan FA yn y flwyddyn newydd.

Ac fe fydd yn elfen fwy Cymreig na’r arfer wrth i’r Adar Glas wynebu Stoke City, dan arweiniad y rheolwr o Gasnewydd, Tony Pulis.

Fe fydd y gêm yn Stadiwm Britannia yn Stoke ar benwythnos 8-9 Ionawr, wrth i Gaerdydd geisio cynnal eu record dda yn y gystadleuaeth – y llynedd, fe aethon nhw i’r bumed rownd cyn colli 4-1 i Chelsea yn Stamford Bridge.

Y flwyddyn gynt, fe lwyddon nhw i gyrraedd y rownd derfynol cyn colli i Portsmouth.

Haws i Abertawe

Mae Abertawe wedi cael tasg haws wrth wynebu Colchester Utd o Gynghrair Un yn Stadiwm Liberty.

Dyma fydd y pedwerydd tro i’r ddau dîm wynebu ei gilydd yn y gystadleuaeth gyda’r Elyrch yn ennill 2-1 y tro diwethaf yn 1999.

Dyma fydd y tro cyntaf i Abertawe wynebu Colchester Utd ers eu curo yn rownd gyn derfynol Tlws yr FA yn 2006.

Llun: Rheolwr Stoke, y Cymro Tony Pulis (Add92 – CCA3.0)