Mae yna rybudd bydd y tywydd rhewllyd yn gwaethygu yn ystod yr wythnos gyda’r disgwyl am fwy o eira a’r tymheredd yn disgyn mor isel â -20C.
Er mai yn nwyrain gwledydd Prydain y bydd yr eira gwaetha’, mae rhybuddion am gawodydd tros nos heddiw ac am lawer o’r wythnos.
Yng Nghymru yr oedd y tymheredd isa’ yng ngwledydd Prydain dros y Sul, gyda’r gwres wedi syrthio i -18C ger Llandrindod ym Mhowys.
Dyna’r tymheredd oera’ erioed i gael ei gofnodi yng Nghymru ym mis Tachwedd a’r oera’ yng ngwledydd Prydain ers Tachwedd ers 1985.
Mae gyrwyr wedi cael eu rhybuddio i gymryd gofal ar y ffyrdd yn enwedig ar rai sydd heb gael graean. Mae yna rybudd hefyd y gallai fod yn rhy oer i’r graean weithio.
Mae cymdeithas foduro’r AA wedi dweud bod nifer y galwadau cymorth a gafodd ddoe ddwywaith mwy na’r arfer, tra bod yr RAC wedi gweld galwadau yn codi o draean.
‘Peryglus’
Fe ddywedodd Alan Wilcock o’r RAC bod gyrwyr yn wynebu teithiau anodd i’r gwaith heddiw.
“Mae’r tywydd oer ac amodau rhewllyd yn golygu fod gyrru’n anodd a pheryglus,” meddai Alan Wilcock.
“Fe ddylai gweithwyr sy’n defnyddio car i deithio ystyried dewisiadau eraill megis gweithio gartref neu fathau eraill o drafnidiaeth.”
Dim hel sbwriel yn RhCT
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n casglu sbwriel a deunydd ail-gylchu oherwydd y tywydd.
Maen nhw’n poeni am ddiogelwch eu staff gyda rhew ar y palmentydd. Yn ôl y Cyngor, fe fydd y staff yn cael eu defnyddio i helpu gyda’r gwaith o wasgaru graean mewn ardaloedd allweddol.
Llun: Rhew ar y ffordd