Y dadlau tros y cynllun Glastir fydd un o’r prif bynciau trafod wrth i’r Ffair Aeaf ddechrau yn Llanelwedd heddiw.

Fe fydd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, ym Mrwsel yn trafod dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin ond mae wedi cydnabod bod angen newidiadau yn y cynllun amaeth-amgylcheddol.

Fe ddywedodd heddiw ei bod yn gobeithio y bydd rhagor o ffermwyr yn ymuno â’r cynllun newydd wrth i’w cytundebau presennol ddod i ben.

Ond, meddai wrth Radio Wales, mae angen symleiddio a gwneud yn siŵr ei bod yn ymarferol i ffermwyr weithredu’r cynlluniau i warchod yr amgylchedd fel rhan o’u busnesau ffermio.

Condemnio

Mae’r cynllun wedi cael ei gondemnio’n hallt gan undebau’r ffermwyr sy’n dweud ei fod yn rhy gymhleth, yn rhy anodd i ymuno ag ef ac yn rhoi gormod o bwyslais ar yr amgylchedd ar draul cynhyrchu bwyd.

Fel y cyhoeddodd Golwg360 yr wythnos ddiwetha’, dim ond tua 3,000 o ffermwyr sydd wedi ymuno â Glastir hyd yn hyn – pumed rhan o’r cyfanswm posib.

Er bod llawer o ffermwyr yn dal i fod ar y cynlluniau cynharach – megis Tir Gofal a Thir Cynnal – mae Elin Jones eisoes wedi cyhoeddi y bydd hi’n cynnal arolwg annibynnol o’r cynllun.

Roedd hi’n gwrthod honiad bod y cynllun wedi’i gyflwyno ar ormod o frys a heb ddigon o ymgynghori.

  • Mae’r Ffair Aeaf yn digwydd heddiw a fory ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd – hi bellach yw’r ffenest siop fwya’ ar gyfer cig Cymru a bwydydd eraill yn y cyfnod cyn y Nadolig.