Cefnogwyr Caerdydd oedd yr ail waetha’ am drais yn y Bencampwriaeth y tymor diwetha’ gyda 125 yn cael eu gwahardd rhag mynd i gemau.

Roedd hynny’n waeth na Millwall, gyda 100 o waharddiadau, a dim ond Leeds oedd yn waeth, gyda 152.

Yn gyffredinol, roedd trais ymhlith cefnogwyr pêl-droed yng Nghymru a Lloegr wedi disgyn o 10% yn ystod y tymor diwetha’.

Yn ôl ffigurau newydd ar gyfer tymor 2009-10 fe gafodd 3,391 o gefnogwyr eu harestio – 395 yn llai na’r tymor cynt.

Chafodd neb ei arestio mewn 70% o gemau a doedd neb o gefnogwyr Lloegr wedi eu harestio am anrhefn yn ystod Cwpan y Byd yn Ne Affrica dros yr haf – o’i gymharu â 950 mewn un noswaith yng Ngwlad Belg yn ystod Ewro 2000.

Cwpan y Byd

Fe gafodd y ffigurau eu croesawu gan y Prif Weinidog David Cameron wrth iddo baratoi i hedfan i Zurich i lobïo aelodau pwyllgor y gymdeithas bêl-droed ryngwladol, FIFA, er mwyn ceisio’u perswadio i gynnal Cwpan y Byd yn Lloegr yn 2018.

Fe fydd y penderfyniad yn cael ei ddatgelu ddydd Iau gyda Lloegr yn cystadlu yn erbyn Rwsia a cheisiadau ar y cyd gan Sbaen a Phortiwgal a Gwlad Belg a’r Iseldiroedd.

Llun: Fideo o drais ar y terasau (YouTube)