Fydd y gwelliannau i’r Mesur Iaith ddim yn cynnwys y statws diamod i’r Gymraeg y mae ymgyrchwyr iaith wedi bod yn galw amdano.

Bydd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones yn gosod ei welliannau terfynol i’r Mesur Iaith yfory.

Ond dywedodd wrth Golwg 360 y byddai rhoi statws pen agored i’r iaith Gymraeg yn creu mwy o amwyster, nid llai.

Mae o hefyd wedi ymateb i’r 80 o Gymry blaenllaw anfonodd lythyr ato’n ddiweddar yn galw am gryfhau’r mesur. Mae’n bosib darllen y llythyr yn llawn isod.

“Beth fyddai’r statws yna yn ei olygu?” meddai Alun Ffred Jones wrth Golwg360. “Fy nadl i ydy, trwy beidio â’i glymu o i ddim byd, a’i adael o’n ben agored yr unig ffordd allwch chi roi ystyr i hwnna ydy ei brofi o mewn llys barn.

“Rydych chi mwy neu lai yn ei roi o drosodd i lys barn i ddehongli beth ydy statws swyddogol, beth bynnag ydy’r amgylchiadau.

“Dw i’n dweud nad llys barn ddylai fod yn gwneud y penderfyniad yna – nid penderfyniad i farnwr sydd yn digwydd dod heibio ar bnawn Mawrth ydi hi.

“Yn fan hyn [yn y Cynulliad] mae gwneud y penderfyniad yma, gan bobol sydd wedi cael eu hethol, pobol y gallwch chi gwyno wrthyn nhw, dweud eich dweud wrthyn nhw.

“Fedrwch chi ddim dweud hynny wrth farnwr. Wel, fe gewch ond dim ond ar ôl talu’n ddrud iawn i gyfreithiwr a bargyfreithiwr wneud o ar eich rhan chi.”

Apelio

Ymysg y gwelliannau mae cyfaddawd gan y Gweinidog ar hawl yr unigolyn i apelio. Yn y mesur drafft, doedd dim mecanwaith i alluogi unigolyn i apelio ar gamwedd ieithyddol, dim ond i wneud cais am gyfiawnder trwy’r Comisiynydd Iaith.

Gyda’r gwelliannau newydd i’r mesur, bydd unigolyn yn gallu apelio os nad yw’n teimlo bod y Comisiynydd wedi delio â’r cwyn yn ddigonol.

Er bod galwadau hefyd wedi bod am iawndal am anghyfiawnder ieithyddol, mae Alun Ffred Jones wedi penderfynu ymatal rhag cyflwyno gwelliant i’r perwyl hwnnw.

“Ar hyn o bryd dw i’n credu y gallai hynny’n arwain at fwy o ddrwg deimlad, petai’r stori’n mynd ar led ein bod ni wedi creu mesur a be mae o’n wneud ydy rhoi’r hawl i Gymry Cymraeg gael pres allan o’r system am gwyno,” eglura’r Gweinidog Treftadaeth.

“Er bod hynny yn gor symleiddio’r sefyllfa a dwi’n derbyn bod yna sefyllfaoedd anodd iawn, iawn yn wynebu pobol sydd yn trio cael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, dwi ddim y credu mai rŵan ydy’r amser i fynd ar ôl hynny. Efallai bod hynny’n rhywbeth sydd werth ei ystyried yn y dyfodol.”

‘Colli cwsg’

Apêl bersonol y Gweinidog Treftadaeth yw i garedigion yr iaith beidio ag amau ei ddidwylledd wrth gyflwyno’r mesur iaith.

Mae’n mynnu na fyddai ar unrhyw gyfrif am gyflwyno mesur iaith ddiffygiol na fyddai’n gwneud y gorau i sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg.

“Dyma’r mesur orau alla i gael,” meddai.”Fyddwn i ddim yn dymuno dod â mesur eilradd gerbron. Mater o farn ydy a ydych chi’n mynd ar ôl yr hyn mae’r caredigion eraill wedi bod yn ei awgrymu.

“Dw i wedi edrych ac ystyried yn ofalus ac wedi colli cwsg amdano fo ond dw i’n hollol hyderus bod y mesur yma yn mynd i wneud y gwaith ydan ni eisiau iddo fo ei wneud a’i wneud o mewn ffordd fyddwn ni’n gallu deall a bydd pobol Cymru’n gallu deall.”

Llythyr Alun Ffred Jones

Diolch am y llythyr a dderbyniais gennych chi a llawer o bobl eraill ynghylch Mesur arfaethedig y Gymraeg (Cymru).

Rwy’n wirioneddol ddiolchgar ichi am eich diddordeb yn y mater hwn a gallaf eich sicrhau fy mod wedi rhoi ystyriaeth hir a gofalus i’r pwyntiau yr ydych yn eu codi. Cydymdeimlaf yn llawn â chi yn eich dymuniad i wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth orau bosibl i gefnogi’r Gymraeg. Yn sicr, dyma fy amcan innau hefyd, ac rwyf wedi gwneud pob ymdrech drwy gydol y broses hon, yn wir hyd nes i’r Llywodraeth osod ei gwelliannau terfynol, i wrando ar amrywiaeth eang o safbwyntiau cyn dod i unrhyw gasgliadau. Rwyf hefyd wedi trafod y mater yn fanwl gyda Gweinidogion eraill a nifer o Aelodau’r Cynulliad.

Rwy’n gadarn o’r farn y bydd y Mesur arfaethedig, a’r strategaeth iaith Gymraeg y byddwn yn ei chyhoeddi’n fuan, yn adlewyrchu’n llawn y ffaith ein bod yn benderfynol o weld yr iaith yn ffynnu.

Bwriad y Llywodraeth yn y Mesur, yn ogystal â phenodi Comisiynydd y Gymraeg a system well ar gyfer gosod dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, yw cynnwys datganiad clir bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru – a dangos yn eglur sut y rhoddir effaith gyfreithiol i’r statws hwnnw.

Wrth ddod i’r casgliad hwn, a thrwy gydol y drafodaeth a gododd yn ei sgil, rwyf wedi rhoi ystyriaeth helaeth i’r achos dros ddatganiad penagored ar statws y Gymraeg. Fodd bynnag, rwyf wedi dod i’r casgliad bod risg wirioneddol y gallai hynny danseilio’r egwyddorion craidd y mae’r Mesur hwn yn seiliedig arnynt, sef y dylid nodi dyletswyddau a hawliau a sefydlwyd yn gyfreithiol yn glir mewn deddfwriaeth; na ddylai sefydlu a sicrhau hawl unigolyn i wasanaeth drwy’r Gymraeg fod yn gyfrifoldeb ac yn faich ar yr unigolyn hwnnw.

Nid wyf yn argyhoeddedig mai Llys ddylai fod yn bennaf gyfrifol am benderfynu ar gyflawn natur a hyd a lled dyletswyddau sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Yn fy marn i, mater i Lywodraeth y Cynulliad a’r Cynulliad Cenedlaethol yw penderfynu ar y dyletswyddau a gaiff eu creu mewn perthynas â’r Gymraeg a’u hyd a’u lled. Oherwydd hyn, mae’r datganiad am statws y Gymraeg sydd yn y Mesur yn dangos sut y rhoddir i’r datganiad statws effaith gyfreithiol a bod y datganiad yn rhywbeth diriaethol, real.

Ni fyddai’n glir beth fyddai effaith gyfreithiol datganiad penagored ynghylch statws. Gallai dehongliad un person o effaith y datganiad hwnnw fod yn wahanol iawn i ddehongliad person arall. Yr unig ffordd o ddatrys i ba raddau yr oedd datganiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson weithredu mewn ffordd arbennig mewn perthynas â’r Gymraeg fyddai mynd â’r mater i’r Llys. Felly, y perygl y gallem ei wynebu yw y gallai hyd a lled statws yr iaith a’i effaith o ran y gyfraith gael ei benderfynu mewn Llys.

Byddai’n rhaid i Lys ddehongli effaith datganiad o’r fath o ran y gyfraith o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a byddai’n bosibl i Lys benderfynu bod effaith a chwmpas y datganiad yn gyfyngedig. Mae’r iaith yn rhy bwysig i mi i adael inni wynebu risg felly.

Er enghraifft, mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i orfodi dyletswyddau ar bersonau i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg a thrin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb yn gyfyngedig i grŵp diffiniedig o bersonau. Hyd yn oed wedyn, ni ellir gorfodi dyletswyddau ar y personau hynny heb fod modd iddynt herio’r dyletswyddau hynny, fel y bônt yn gymwys i’r personau hynny, ar sail rhesymoldeb a chymesuredd. Yr eithriad i’r rheol hon yw y gellir rhoi dyletswyddau i hybu a hwyluso’r Gymraeg ac i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb ar grŵp bach o gyrff, sef awdurdodau’r Gymraeg (er enghraifft Comisiynydd y Gymraeg a Thribiwnlys y Gymraeg) heb fod modd eu herio.

O ganlyniad, gallai Llys ddod i’r casgliad, yn absenoldeb modd o herio mewn datganiad statws, mai dim ond ymddygiad grŵp cyfyngedig iawn o gyrff y gellid ei newid yn gyfreithiol yn sgil y datganiad statws, sef awdurdodau’r Gymraeg.

Ni ddylech chi a’ch cydlofnodwyr fod mewn unrhyw amheuaeth, felly, mai fy amcan innau,